[one_half padding=”0 20px 0 0px”]

Oriau Agor

Mae’n ddrwg iawn gennym gyhoeddi y bydd yr amgueddfa ar gau am y tro. Mae’r rhan fwyaf o’n cynorthwywyr gwirfoddol yn dod o fewn categori “Mewn Perygl” y Llywodraeth, ac mae’n bwysig amddiffyn eu hiechyd, yn ogystal ag iechyd ein hymwelwyr.

Byddwn yn ailagor pan fydd y sefyllfa’n gwella.

Fel elusen annibynnol fach, rydyn ni’n gwbl ddibynnol ar wirfoddolwyr i agor yr amgueddfa. Am y rheswm hwn mae ein horiau agor yn gyfyngedig ac ni fyddwn ar agor yn ystod yr holl oriau y bydd trenau’n teithio ar Reilffordd Tal-y-llyn.

Bydd yr amgueddfa ar agor ar ddyddiau pan fydd trenau cyhoeddus yn teithio’n unig.

Os hoffech ymweld â’r amgueddfa ar ddyddiadau eraill, cysylltwch â’r curadur drwy ebost ac fe geisiwn ni drefnu dyddiad addas i chi ymweld.

Mae mynediad am ddim i’r amgueddfa. Rydyn ni’n hollol ddibynnol ar roddion gan ein hymwelwyr, ac mae blychau cyfrannu ar gael os hoffech ddangos eich gwerthfawrogiad. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid yn uniongyrchol gan Reilffordd Tal-y-llyn.

[/one_half]

[one_half_last padding=”0 0px 0 20px”]

Opening Times

We are very sorry to announce that the museum will be closed for the time being. Most of our volunteer helpers fall into the Government’s “At Risk” category, and it is important to protect their health, as well as the health of our visitors.

We will reopen when the situation improves.

As a small independent charity, we rely entirely on volunteers to open the museum. For this reason our opening times are limited and will not cover all the hours that trains are running on the Talyllyn Railway.

The museum will only be open on days that public trains are running.

If you wish to visit the museum on other dates, please contact the curator by email and we will try to arrange a suitable date for a visit.

Admission to the museum is free of charge. We are entirely reliant on donations from our visitors, and donation boxes are available should you wish to show your appreciation. We do not receive any direct funding from the Talyllyn Railway.

[/one_half_last]