Cyfleuster Ymchwil |Research Facility

Mae’r Amgueddfa’n darparu cyfleusterau i’r rhai sy’n dymuno gwneud ymchwil i reilffyrdd cul.  Mae rhai eitemau wedi’u cynnwys mewn Cwpwrdd Drôr y mae modd ei gyrraedd drwy ofyn i’r Gweinydd sydd ar ddyletswydd i gael mynediad.  Cedwir deunydd arall mewn man storio diogel, a gellir sicrhau ei fod ar gael drwy drefniant ymlaen llaw.  Os hoffech astudio eitem benodol, mae’n werth gofyn am fynediad ato o flaen llaw.  Dangosir y rhan fwyaf o’r eitemau sydd ar gael yn ein catalog casgliadau ar y wefan hon.

Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau a deunydd ffotograffig yn ein casgliadau yn ddarostyngedig i hawlfraint, sy’n gosod cyfyngiadau ar y ffyrdd y gellir defnyddio copïau o’r deunydd hwnnw.

Dylech fod yn ymwybodol mai dim ond i gynhyrchu copïau y mae hawlfraint yn berthnasol.  Bydd dal hawl i chi weld (ond heb dynnu lluniau) yr eitemau yn ein casgliad yn bersonol a gallwch barhau i gymryd nodiadau o unrhyw wybodaeth a gynhwysir o fewn yr eitemau hynny, hyd yn oed os mae eich gwaith ymchwil at ddibenion masnachol.

Os hoffech atgynhyrchu’r eitemau rydych yn cymryd copïau ohonynt mewn llyfr neu erthygl ar gyfer cyfnodolyn, dangos y delweddau mewn man cyhoeddus, rhannu’r delweddau ar-lein neu eu rhoi i rywun arall, bydd angen i chi gael caniatâd i wneud hyn.

Bydd angen i chi gael caniatâd hefyd os yw eich ymchwil at ddiben masnachol (hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu rhannu’r delweddau gydag unrhyw un arall ar unrhyw adeg). Mae diben masnachol yn cynnwys ymchwil ar gyfer unrhyw brosiect a fydd yn cynhyrchu refeniw drwy werthu cynnyrch neu wasanaeth. Er enghraifft, gallai hyn fod yn ymchwil i gynhyrchu model a fydd wedyn yn cael ei werthu, cael eich talu i wneud gwaith ymchwil ar ran rhywun arall, neu ymchwil ar gyfer adfer locomotif neu gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben masnachol.

Bydd y rheolau canlynol yn cael eu rhoi ar waith:
• Rhaid ymdrin â dogfennau’n ofalus bob amser a rhaid eu rhoi yn y boced blastig a’r drôr cywir ar ôl eu defnyddio.
• Bydd yr Amgueddfa’n caniatáu defnyddio’r bwrdd cyfrifiadur neu fwrdd cludadwy sy’n cael ei gadw yn y swyddfa. Fel arall, gall ymchwilwyr rag-archebu Ystafell Slater ar gyfer astudio [cysylltwch â Lorraine.simkiss@talyllyn.co.uk]
• Mae ein cyfrifiadur cyhoeddus yn cynnwys catalog o gasgliadau’r Amgueddfa.
• Defnyddiwch bensiliau yn unig – dim beiros na marcwyr.
• Gallwch ddod â phadiau ysgrifennu, papur dalennau rhydd a gliniaduron i wneud nodiadau arnynt
• Ni chaniateir bwyd na diod yn yr Amgueddfa.
• Os ydych yn gwneud gwaith ymchwil preifat, gallwch wneud copïau / tynnu lluniau [ond dim ffotograffiaeth fflach].
• Ni fydd yr Amgueddfa’n darparu cyflenwad trydan ar gyfer gliniaduron a sganwyr oni bai bod prawf PAT wedi’i drefnu ymlaen llaw.

The Museum provides facilities for those wishing to carry out research into narrow gauge railways.  Some items are contained within a Drawer Cabinet which is accessible by asking the Attendant on duty for access.  Other material is held in secure storage, and can be made available by prior arrangement.  If you wish to study a particular item, then it is advisable to request access in advance.  Most items available are shown in our collections catalogue on this website.

Most of the document and photographic material in our collections is subject to copyright, which places restrictions on the ways copies of that material can be used.

Please be aware that copyright only applies to the production of copies.  You may still view (but not photograph) items in our collection in person and you may still take notes of any information contained within those items, even if your research is for commercial purposes.

If you would like to reproduce the items you are taking copies of in a book or journal article, display the images in a public space, share the images online or give them to someone else, you will need to obtain permission to do this.

You will also need to obtain permission if your research is for a commercial purpose (even if you do not plan to share the images with anyone else at any point). A commercial purpose includes research for any project which will generate revenue through selling a product or service. For example, this could be research to produce a model that will then be sold, being paid to carry out research on someone else’s behalf, or research for restoring a locomotive or carriage which is used for a commercial purpose.

The following house rules will be applied:
• Documents must be handled with care at all times and must be replaced in the correct plastic sleeve and drawer after use.
• The museum will allow use of the computer table or a portable table stored in the office. Alternatively, researchers may pre-book the Slater Room for study [contact Lorraine.simkiss@talyllyn.co.uk]
• Our public computer contains a catalogue of the Museum’s collections.
• Pencils only to be used – no pens or markers.
• You may bring notepads, loose leaf paper and laptops to make notes on
• No food or drink allowed in the museum.
• If you are carrying out private research, you can make copies / photos [but no flash photography].
• The museum will not provide a power supply for laptops and scanners unless a PAT test has been pre-arranged.