Cludwyr Cyhoeddus | Public Carriers

Roedd llawer o reilffyrdd bach cul ym Mhrydain yn cynnig gwasanaeth cyhoeddus ac yn cludo teithwyr a nwyddau. Roedd y rhai cynharaf yng Nghymru. Y cyntaf yn Lloegr oedd Rheilffordd Ravenglass & Eskdale a agorodd ym 1875.

Yn dilyn ‘Deddf Rheilffyrdd Ysgafn’ 1896 gostyngwyd y gofynion statudol yn ymwneud ag adeiladu a rhedeg rheilffyrdd. Canlyniad hyn oedd rheilffyrdd cul cyhoeddus newydd megis y Trallwng & Llanfair, a’r Leek & Manifold. Elwodd pob un o’r rheilffyrdd hyn yn sgil y twf mewn twristiaeth a ‘thrafnidiaeth gwibdeithiau.’

O’r 1920au ymlaen, edwinodd trafnidiaeth teithwyr ar yr holl reilffyrdd a bu’n rhaid i rai gau. Parhaodd eraill, gan gynnwys y Trallwng & Llanfair, i frwydro ymlaen fel leiniau ‘nwyddau’n unig’. Cafodd rheilffordd y Trallwng & Llanfair ei phrynu yn ystod y 1950au gan gynllun cadwraeth, ac mae rheilffyrdd Lynton & Barnstaple a Corris bellach yn cael eu hadfywio fel leiniau twristiaeth.

Many narrow gauge lines in Britain ran a public service and carried passengers and goods. The earliest were in Wales. England’s first was the Ravenglass & Eskdale Railway which opened in 1875.

The ‘Light Railways Act’ of 1896 reduced the legal requirements surrounding building and running railways. The result was new public narrow gauge lines like the Welshpool & Llanfair, and the Leek & Manifold. All these lines benefited from the growth of tourism and ‘excursion traffic.’

Passenger traffic on all lines declined from the 1920s and some closed. Others, including the Welshpool & Llanfair, struggled on as ‘freight only’ lines. The Welshpool & Llanfair was taken over in the 1950s by a preservation scheme, whilst the Lynton & Barnstaple and Corris railways are now being revived as tourist lines.