Gwirfoddoli | Volunteering

Mae’r amgueddfa’n dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr i weithredu. Mae tri phrif fath o weithgareddau i wirfoddolwyr.

Gwasanaethydd Amgueddfa

Mae gennym wasanaethydd ar ddyletswydd pan fydd yr amgueddfa ar agor. Mae’r sifftiau oddeutu tair i bedair awr o hyd, gyda sifft fore a phrynhawn yn ystod tymor prysur yr haf. Er bod y rhan fwyaf o’n gwasanaethwyr yn byw’n lleol, mae nifer yn gwirfoddoli yn ystod eu gwyliau yn yr ardal.

Gweithgorau

Cynhelir gweithgorau rheolaidd yn ystod y flwyddyn, fel arfer ar fore Iau. Yn ystod yr haf, mae mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud yn yr awyr agored, yn adnewyddu ein fflyd o wagenni hanesyddol. Pan fydd yr amgueddfa ar gau dros y gaeaf, cymerir y cyfle i addurno tu mewn i’r amgueddfa ac adnewyddu’r arddangosfeydd.

Rheoli Casgliadau

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymgymryd â rhai o’r tasgau sy’n gysylltiedig â rheoli’r casgliad. Mae hyn yn cynnwys catalogio gwrthrychau a gwneud copïau digidol. Gellir cyflawni rhai o’r tasgau hyn o gartref.

Yr ydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i gynorthwyo. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost yn y lle cyntaf gan roi syniad o’ch maes diddordeb.

The museum relies entirely on volunteers to operate. There are three main activities for volunteers.

Museum Attendant

We have an attendant on duty when the museum is open. Shifts are in the region of three to four hours with a morning and afternoon shift during the busy summer season. While the majority of our attendants live locally, a number do volunteer during their holidays in the area.

Working Parties

Regular working parties are held during the year, usually on a Thursday morning. During the summer, the work is mainly outdoors, with repairs to our historic wagon fleet. When the museum is closed over the winter, the opportunity is taken to carry out decorating within the museum, and refreshing the museum displays.

Collections Management

We are looking for volunteers to undertake some of the jobs involved in managing the collection. This includes cataloguing objects and making digital copies. Some of these tasks can be carried out from home.

We are always looking for new volunteers to assist. If you would like to find out more, please contact us by email in the first instance giving an indication of your area of interest.

Museum Upper Floor
Museum Attendant
Volunteer Working Party